Hen Ffolt: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Geraint (sgwrs | cyfraniadau) Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Saif yr Hen Ffolt ar ben allt-môr Y Gorllwyn yn Nhrefor, rhwng gwaelod Tomen Fawr y Farchas a'r traeth caregog islaw, mewn man a elwir Pant y Farchas, gy...' |
(Dim gwahaniaeth)
|
Fersiwn yn ôl 18:52, 17 Chwefror 2020
Saif yr Hen Ffolt ar ben allt-môr Y Gorllwyn yn Nhrefor, rhwng gwaelod Tomen Fawr y Farchas a'r traeth caregog islaw, mewn man a elwir Pant y Farchas, gyda rhan ohoni bellach wedi diflannu i'r môr trwy erydiad y blynyddoedd. Roedd yma, yn y ddeunawfed ganrif a hanner cynta'r bedwaredd ganrif ar bymtheg, gorlan defaid a cheffylau perthynol i fferm Nant Bach gerllaw. Roedd yn ardal bur anghysbell bryd hynny, fel y mae heddiw.
Tua 1844 dechreuodd dau neu dri o griwiau bychain wneud setiau o'r cerrig ithfaen mawrion oedd wedi eu gwasgaru ger tir yr Hen Ffolt. Cerrig rhyddion oedd y rhain oedd yn dystiolaeth i'r miliynau tunelli a gludwyd gan y rhewlifoedd oes a fu. Roeddent yn gerrig o ansawdd neilltuol, yn berffaith ar gyfer gwneud cerrig palmantu (setiau). Hyn, mewn gwirionedd, oedd y cychwyn cyntaf un i Chwarel yr Eifl ddaeth, yn ei hawr anterth, y chwarel setiau ithfaen fwyaf o'i bath yn y byd, ac yn cyflogi dros fil o ddynion.