Brigantîn yr ''Ion'': Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Neidio i'r panel llywio
Neidio i'r bar chwilio
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Yr '''Ion''' oedd yr olaf o dair llong y gwyddys amdanynt a godwyd yn Nhrefor, a'r fwyaf o ddigon. Fe'i hadeiladwyd ym 1874 gyda dau fast yn ca...' |
(Dim gwahaniaeth)
|
Fersiwn yn ôl 09:25, 17 Chwefror 2020
Yr Ion oedd yr olaf o dair llong y gwyddys amdanynt a godwyd yn Nhrefor, a'r fwyaf o ddigon. Fe'i hadeiladwyd ym 1874 gyda dau fast yn cario hwyliau ôl a blaen a sgwarsl (hwyl sgwâr); brigantîn yw'r enw am long gyda rig o'r fath. Roedd hi'n 230 tunnell o ran tunelledd. Ei hadeiladydd oedd H. Thomas. Fe'i hadeiladwyd ar gyfer perchnogion yng nghylch Lerpwl ac fe'i werthwyd ym 1884 i berchnogion o Norwy.[1]
Cyfeiriadau
- ↑ David Thomas, Hen Longau Sir Gaernarfon, (Caernarfon, 1952), t.206