Capel Bethlehem (A), Trefor: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir y 8 golygiad yn y canol gan 4 defnyddiwr arall)
Llinell 1: Llinell 1:
Mae Bethlehem (A) yn addoldy ym mhentref Trefor.
Roedd ''' Capel Bethlehem''' (A) yn addoldy ym mhentref [[Trefor]].
Cauwyd y capel ym 1983, ac mae'r adeilad bellach yn gartref i Seindorf Trefor.
Am gyfnod, bu'r capel hwn yn cynnal oedfaon yn y Saesneg, er mwyn y gweithwyr oedd wedi mudo i Drefor i weithio yn y chwarel ithfaen. Ond yn fuan daethant yn rhugl yn y Gymraeg a ni fu angen gwasanaethau yn yr iaith fain!


{{eginyn}}
1794 : sefydlwyd achos Maesyneuadd (A) yn hen ffermdy bychan Maesyneuadd.


[Categoriau : capel]
1812 : adeiladwyd y capel cyntaf ar dir Maesyneuadd a'i alw'n swyddogol yn Bethlehem (A). Ond Maesyneuadd neu'r Capel Bach oedd o i bawb ar lafar.
 
1874 : agorwyd capel mwy gan yr Annibynwyr rhyw ganllath i lawr y lôn a'i enwi'n [[Capel Maesyneuadd (A), Trefor|Maesyneuadd (A)]]..
 
1876 : trosglwyddwyd Bethlehem i rai Saeson o chwarelwyr (Inglish Côs) oedd wedi mudo yma o Swydd Caerlŷr yn bennaf. Parhai yn achos Annibynnol (English Cong. oedd ar yr arwydd ger y giât). Bellach, roedd yma ddau achos Annibynnol - un mawr Cymraeg ac un bach, bach Saesneg. Fodd bynnag, yn fuan daeth yr aelodau'n rhugl yn y Gymraeg a ni fu angen gwasanaethau yn yr iaith fain!
 
1983 : Dim ond 3 aelod oedd ar ôl yn y Capel Bach erbyn hyn a'r rheiny'n Gymry trydedd genhedlaeth. Fe'i caewyd. Gan mai Maesyneuadd oedd piau'r capel cafwyd pleidlais ynglŷn â'i ddyfodol. Penderfynwyd o fwyafrif llethol ei roi yn rhodd am ddim i'r Seindorf oedd, ers rhyw ddwy flynedd, wedi gorfod cau yr hen Gwt Band o goed ac asbestos ym mhen arall y pentref. Mae'r Seindorf yn dal i ymarfer yno ac wedi gwario miloedd ar filoedd o bunnau i'w addasu a'i wneud yn ddiddos.
 
[[Cwt Band Trefor]] y'i gelwir gan bawb ond y geiriau ar y mur yw : ''Bethlehem, Cartref [[Seindorf Trefor]] (sefydlwyd 1863)''.
 
 
[[Categori:Crefydd]]
[[Categori:Capeli]]

Golygiad diweddaraf yn ôl 11:26, 13 Chwefror 2020

Roedd Capel Bethlehem (A) yn addoldy ym mhentref Trefor.

1794 : sefydlwyd achos Maesyneuadd (A) yn hen ffermdy bychan Maesyneuadd.

1812 : adeiladwyd y capel cyntaf ar dir Maesyneuadd a'i alw'n swyddogol yn Bethlehem (A). Ond Maesyneuadd neu'r Capel Bach oedd o i bawb ar lafar.

1874 : agorwyd capel mwy gan yr Annibynwyr rhyw ganllath i lawr y lôn a'i enwi'n Maesyneuadd (A)..

1876 : trosglwyddwyd Bethlehem i rai Saeson o chwarelwyr (Inglish Côs) oedd wedi mudo yma o Swydd Caerlŷr yn bennaf. Parhai yn achos Annibynnol (English Cong. oedd ar yr arwydd ger y giât). Bellach, roedd yma ddau achos Annibynnol - un mawr Cymraeg ac un bach, bach Saesneg. Fodd bynnag, yn fuan daeth yr aelodau'n rhugl yn y Gymraeg a ni fu angen gwasanaethau yn yr iaith fain!

1983 : Dim ond 3 aelod oedd ar ôl yn y Capel Bach erbyn hyn a'r rheiny'n Gymry trydedd genhedlaeth. Fe'i caewyd. Gan mai Maesyneuadd oedd piau'r capel cafwyd pleidlais ynglŷn â'i ddyfodol. Penderfynwyd o fwyafrif llethol ei roi yn rhodd am ddim i'r Seindorf oedd, ers rhyw ddwy flynedd, wedi gorfod cau yr hen Gwt Band o goed ac asbestos ym mhen arall y pentref. Mae'r Seindorf yn dal i ymarfer yno ac wedi gwario miloedd ar filoedd o bunnau i'w addasu a'i wneud yn ddiddos.

Cwt Band Trefor y'i gelwir gan bawb ond y geiriau ar y mur yw : Bethlehem, Cartref Seindorf Trefor (sefydlwyd 1863).