Evan Jones (Senoj Nave): Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Geraint (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
(Ni ddangosir 1 olygiad rhyngol gan yr un defnyddiwr) | |||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
Chwarelwr yn Chwarel yr Eifl, Trefor, oedd Evan Jones, 46 Farren Street, Trefor, ac yn frodor o Lanfairfechan. Daeth i Drefor yn ifanc iawn a'i hoff ddileit oedd barddoni. Er nad oes cyfrol o'i waith hyd yma, mae ei gynnyrch i'w weld yn aml yng nghylchgrawn misol i blant yr Annibynwyr, ''Dysgedydd y Plant'', ac yn y cylchgrawn i ferched (yn bennaf), sef ''Y Frythones'' ym mlynyddoedd ail hanner y 19eg ganrif. | Chwarelwr yn [[Chwarel yr Eifl]], [[Trefor]], oedd Evan Jones, 46 Farren Street, Trefor, ac yn frodor o Lanfairfechan. Daeth i Drefor yn ifanc iawn a'i hoff ddileit oedd barddoni. Er nad oes cyfrol o'i waith hyd yma, mae ei gynnyrch i'w weld yn aml yng nghylchgrawn misol i blant yr Annibynwyr, ''Dysgedydd y Plant'', ac yn y cylchgrawn i ferched (yn bennaf), sef ''Y Frythones'' ym mlynyddoedd ail hanner y 19eg ganrif. | ||
Roedd ganddo ddau enw barddol - ''' | Roedd ganddo ddau enw barddol - '''Ianto''' oedd y naill, a '''Senoj Nave''' oedd y llall, hwn, wrth gwrs, yn Evan Jones tu-ôl-ymlaen. Mae'n un o'r beirdd mwyaf toreithiog a fu yn yr ardal hon erioed. Yn aml, cydweithiai â'i frawd Robert, oedd yn gerddor da. Byddai Robert yn cyfansoddi'r dôn ac Evan, ei frawd, yn cyfansoddi'r geiriau. Roedd rhai o aelodau'r teulu hwn yn forwyr ac fe ganodd Evan nifer o gerddi morwrol. Dyma ddwy o'r cerddi hynny. | ||
Llinell 139: | Llinell 139: | ||
Clod i'r Iesu | Clod i'r Iesu | ||
[[Categori:Pobl]] | |||
[[Categori:Beirdd]] | |||
[[Categori:Chwarelwyr]] |
Golygiad diweddaraf yn ôl 09:59, 13 Chwefror 2020
Chwarelwr yn Chwarel yr Eifl, Trefor, oedd Evan Jones, 46 Farren Street, Trefor, ac yn frodor o Lanfairfechan. Daeth i Drefor yn ifanc iawn a'i hoff ddileit oedd barddoni. Er nad oes cyfrol o'i waith hyd yma, mae ei gynnyrch i'w weld yn aml yng nghylchgrawn misol i blant yr Annibynwyr, Dysgedydd y Plant, ac yn y cylchgrawn i ferched (yn bennaf), sef Y Frythones ym mlynyddoedd ail hanner y 19eg ganrif.
Roedd ganddo ddau enw barddol - Ianto oedd y naill, a Senoj Nave oedd y llall, hwn, wrth gwrs, yn Evan Jones tu-ôl-ymlaen. Mae'n un o'r beirdd mwyaf toreithiog a fu yn yr ardal hon erioed. Yn aml, cydweithiai â'i frawd Robert, oedd yn gerddor da. Byddai Robert yn cyfansoddi'r dôn ac Evan, ei frawd, yn cyfansoddi'r geiriau. Roedd rhai o aelodau'r teulu hwn yn forwyr ac fe ganodd Evan nifer o gerddi morwrol. Dyma ddwy o'r cerddi hynny.
Y MORWR
Dros foroedd dyfnion, geirwon,
Yr â y morwr llon,
Heb deimlo unrhyw arswyd
Na dychryn yn ei fron ;
Bydd mewn peryglon mawrion
A hynny braidd o hyd,
Er hynny, hynod ddedwydd
Yw'r morwr ar bob pryd.
Fe wasanaetha'r morwr
Drigolion yr holl fyd,
A hebddo ef fe fuasai
Yn chwith i ni i gyd ;
Tydi o Dduw y duwiau,
Sydd â'r gwyntoedd yn dy law,
O, cynnal di y morwr,
A chadw'r stormydd draw.
Senoj Nave : Mawrth 1884
GWEDDI GWRAIG Y MORWR
Ymferwai a rhuai yr eigion,
A'r nefoedd uwchben oedd yn ddu,
Ymwibiai y mellt fel ellyllon,
A rhuai'r taranau yn gry'
Ymruthrai y gwynt yn ddychrynllyd,
A lluchid y llong ar bob llaw,
A'r tonnau ymchwyddent i'r entrych,
Nes llanw pob mynwes â braw.
Ar lan y brochus li, roedd gwraig y morwr gwiw,
Yr hon ddyrchafai'i chri i'r nefoedd fry at Dduw,
Edrychai hi yn syn, a'i chalon oedd yn brudd,
Gweddio oedd fel hyn, a'r dagrau ar ei grudd.
"Fy annwyl Arglwydd Iesu, O ! clyw fy llefain i, Edrycha ar fy mhriod, Sydd ar y tonnog li ; O ! estyn di ymwared I 'mhriod, Iesu gwiw, Bydd Di'n amddiffyn iddo, O ! cadw ef yn fyw."
Y gwynt a ostegodd,
A'r môr a dawelodd,
Achubwyd y morwr ardderchog ;
Pwy ŵyr na wrandawyd
Y weddi ddyrchafwyd ?
Un hynod yw Duw, a thrugarog.
Evan Jones, 46 Farren Street, Trefor
Dyma rai o deitlau cerddi eraill ganddo :
Llongddrylliad yr Apostol Paul
Marwnad ar ôl y diweddar William R. Roberts, Trefor
ER COF am Henry Griffith, Llechgaran, yr hwn oedd flaenor parchus yng nghapel Saron [Bedyddwyr Llanaelhaearn]. Bu farw Mai 1882 yn 76 mlwydd oed.
Ffynnon Calfaria
Gwrthrych Cariad
"Clyw, o Dduw, fy llefain"
Fy chwaer, Mary Jones, Mona View, Llanfairfechan, a fu farw Medi 1af, 1879, yn 26 oed.
Cartref y Meddwyn
Yr Ysmociwr
Hiraeth am Gymru
O Paid
Erfyniad ar Dduw
Y Fynwent [1]
Y Fynwent [2]
Y Nefoedd
Angau Crist
Fy Mam (Efelychiad)
Derbyn fi
Clod i'r Iesu