Robert William Jones (Gosenian): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
 
Llinell 5: Llinell 5:
O ganlyniad i ddrylliad alaethus y ''Cyprian'' ar arfordir Llŷn ym 1881, a methiant Bad Achub Portin-lläen i fynd allan i'r môr ar y pryd, penderfynwyd cael ail gwch achub ar yr arfordir peryglus rhwng Enlli a [[Dinas Dinlle]].  
O ganlyniad i ddrylliad alaethus y ''Cyprian'' ar arfordir Llŷn ym 1881, a methiant Bad Achub Portin-lläen i fynd allan i'r môr ar y pryd, penderfynwyd cael ail gwch achub ar yr arfordir peryglus rhwng Enlli a [[Dinas Dinlle]].  


Ym 1883 cafwyd gorsaf bad achub yn harbwr Trefor i gartrefu'r cwch hwnnw ac fe'i galwyd yn ''Cyprian'' am resymau amlwg. Ddiwedd 1883 fe'i galwyd allan ar storm fawr i geisio achub criw y llong, ''Lady Hinks'', a ddrylliwyd ar [[Trwyn y tâl|drwyn y Clogwyn]] yn Nhrefor. Pan yn rhwyfo rownd trwyn y Cei fe ddymchwelwyd y bad, ond fe achubwyd y criw, a hefyd, trwy ddulliau dewr eraill, holl griw y ''Lady Hinks''. Dyma gerdd Gosenian i Fad Achub y ''Cyprian'', Trefor.
Ym 1883 cafwyd gorsaf [[Bad achub Trefor|bad achub]] yn [[Harbwr Trefor|harbwr Trefor]] i gartrefu'r cwch hwnnw ac fe'i galwyd yn ''Cyprian'' am resymau amlwg. Ddiwedd 1883 fe'i galwyd allan ar storm fawr i geisio achub criw y llong, ''Lady Hinks'', a ddrylliwyd ar [[Trwyn y tâl|drwyn y Clogwyn]] yn Nhrefor. Pan yn rhwyfo rownd trwyn y Cei fe ddymchwelwyd y bad, ond fe achubwyd y criw, a hefyd, trwy ddulliau dewr eraill, holl griw y ''Lady Hinks''. Dyma gerdd Gosenian i Fad Achub y ''Cyprian'', Trefor.





Golygiad diweddaraf yn ôl 10:28, 12 Chwefror 2020

Hen lanc annwyl iawn oedd R.W. Jones, Nant Bach, Trefor, (m.1911), yn ffermwr, blaenor Methodist yng nghapel Gosen (MC), ac yn ysgrifennydd Seindorf Trefor ar droad y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Bu'n allweddol ac yn amlwg iawn yn y symudiad i gael offerynnau newydd i'r Band ym 1897.

Bu'n flaenor, ysgrifennydd ac athro ysgol Sul yng Ngosen, a dengys ei enw barddol Gosenian pa mor bwysig yn ei olwg oedd yr achos yno.

O ganlyniad i ddrylliad alaethus y Cyprian ar arfordir Llŷn ym 1881, a methiant Bad Achub Portin-lläen i fynd allan i'r môr ar y pryd, penderfynwyd cael ail gwch achub ar yr arfordir peryglus rhwng Enlli a Dinas Dinlle.

Ym 1883 cafwyd gorsaf bad achub yn harbwr Trefor i gartrefu'r cwch hwnnw ac fe'i galwyd yn Cyprian am resymau amlwg. Ddiwedd 1883 fe'i galwyd allan ar storm fawr i geisio achub criw y llong, Lady Hinks, a ddrylliwyd ar drwyn y Clogwyn yn Nhrefor. Pan yn rhwyfo rownd trwyn y Cei fe ddymchwelwyd y bad, ond fe achubwyd y criw, a hefyd, trwy ddulliau dewr eraill, holl griw y Lady Hinks. Dyma gerdd Gosenian i Fad Achub y Cyprian, Trefor.


Y Bywyd-fad


Pan y byddo'r mellt yn gwibio

Ac y rhua'r daran gref ;

Pan y byddo'r môr cynhyrfus

Yn ymgodi hyd y nef ;

Parod ydwyt ti'r Bywyd-fad

I wynebu'r tonnau cryf,

A thrwy ganol y rhyferthwy

Yr ywthi di yn hyf.


Pan y byddo'r morwr druan

Bron a suddo yn y lli,

Llama'i galon mewn llawenydd

Pan y gwelo ef tydi ;

Yr wyt ti, Fywyd-fad tirion

Megis angel glân a gwiw,

Gyda neges yn dy fynwes

I rai sydd â'u bron yn friw.


Caru gweini ar blant dynion

Yr wyt ti Fywyd-fad cu,

Gwneud negesau o drugaredd

Yw'th uchelgais bennaf di ;

Y mae hyn yn gwneud dy enw

Yn or-annwyl drwy bob gwlad,

Ac fe genir fyth dy glodydd

Gan ddynolryw mewn mwynhad.


Cael ei ladd mewn damwain wnaeth Gosenian yn haf 1911, pan syrthiodd o ben llwyth gwair yng nghae Llwynaethnen.