Thomas Hughes: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Geraint (sgwrs | cyfraniadau)
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Gŵr amlwg yn yr ardal oedd Thomas Hughes, Cae Glas, Llanaelhaearn - yn flaenor yng nghapel Y Babell (MC), Llanaelhaearn, yn arweinydd eisteddfodau a chyn...'
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 16:03, 10 Chwefror 2020

Gŵr amlwg yn yr ardal oedd Thomas Hughes, Cae Glas, Llanaelhaearn - yn flaenor yng nghapel Y Babell (MC), Llanaelhaearn, yn arweinydd eisteddfodau a chyngherddau, ac yn fardd a enillodd lu o wobrau mewn cyfarfodydd cystadleuol yn y fro.

Gweithiai fel Stiward yn Chwarel yr Eifl, Trefor. Yn ddiweddarach daeth yn Brif Glerc y chwarel. Gŵr uchel iawn ei barch gan weithwyr a meistri. Hannai o'r un cyff â Robert Hughes, Uwchlaw'rffynnon (Robin Goch), y bardd-arlunydd-bregethwr adnabyddus. Dyma englyn teyrnged a gyfansoddwyd iddo gan Celynydd (John Hugh Jones) y bardd o Fryn Celyn Ucha, Llithfaen.


I Thomas Hughes, Cae Glas

Gŵr hynaws a gâr henwr - a chlodus

Fel gwych ysgrifenwr,

Gonest waith fe'i gwna'n siŵr ;

Pwy sy' fel yr hen bwyswr ?


Cynhyrchodd Thomas Hughes yntau doreth o englynion, ond, ysywaeth, does ond ychydig iawn ohonynt ar gof a chadw. Lluniodd yr englyn canlynol ar gyfer eisteddfod leol ym 1881 - a do, fe enillodd y wobr gyntaf !


Y Trosol

Troi seiliau wna trosolion - y creigiau

A graciant yn sgyrsion ;

Wrth y brig fe wna wyrth bron,

Crea ef ddynion cryfion.