Syr John Wynn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Ganwyd '''John Wynn''' (1701-1773) a ddaeth yn ail farwnig y teulu, ym 1701 a'i fedyddio yn Eglwys Llanbeblig. Yr oedd yn fab i Frances Glynn, unig ae...'
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 10:15, 10 Chwefror 2020

Ganwyd John Wynn (1701-1773) a ddaeth yn ail farwnig y teulu, ym 1701 a'i fedyddio yn Eglwys Llanbeblig. Yr oedd yn fab i Frances Glynn, unig aeres Ystad Glynllifon a Thomas Wynn o Foduan, a wnaed yn farwnig ym 1742.

Gwasanaethodd John Wynn fel Uchel Siryf Sir Gaernarfon, 1732-3, ac fe'i etholwyd yn Aelod Seneddol dros Sir gaernarfon ym 1740.

Yn ystod hanner cyntaf y 18g, fe briododd John Wynn â Jane Wynne, etifeddes Melai, Llanfair Talhaearn ac Abaty Maenan, Dyffryn Conwy. Ychwanegodd hynny diroedd yn ardal Dinbych, Melai, ucheldir Cwm Eigiau a ffermydd a fyddai'n dod yn ffynhonell cyfoeth mawr maes o law ym mhlwyf Ffestiniog.[1]


Cyfeiriadau

  1. J Griffiths, Pedigrees of Anglesey and Caernarvonshire Families, (Horncastle, 1914), tt.172-3.