John Harries: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Geraint (sgwrs | cyfraniadau)
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Rheithor plwyf Llanaelhaearn o 1903 hyd 1904 oedd John Harris, brodor o Panteilgan, Llangeler, Sir Gaerfyrddin. Ym 1885 graddiodd yn B.A. yng Ngholeg Llan...'
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 15:47, 6 Chwefror 2020

Rheithor plwyf Llanaelhaearn o 1903 hyd 1904 oedd John Harris, brodor o Panteilgan, Llangeler, Sir Gaerfyrddin. Ym 1885 graddiodd yn B.A. yng Ngholeg Llanbedr Pont Steffan. Fe'i ordeiniwyd yn ddiacon ym 1885 ac yn offeiriad ym 1886.

1885-91 : Curad Blaenau Ffestiniog

1891-99 : Curad Conwy

1899-1902 : Curad Llandanwg, Meirionnydd

1902-03 : Ficer cyntaf Harlech

1903-04 : Rheithor plwyf Llanaelhaearn (yn cynnwys Trefor)

Bu farw 24 Awst 1904 ac fe'i claddwyd yn Llangeler, ei fro enedigol.

Roedd yn awdur llyfr a gyhoeddwyd ym 1894, Gwasanaeth ar gyfer yr Ysgolion Sul, ac fe'i hailgyhoeddwyd ym 1900.