J.M.W. Turner: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Arlunydd byd-enwog y cyfnod Rhamantaidd o Lundain oedd '''Joseph Mallord William Turner''' (1775-1851). <ref>Erthygl ar Turner yn Wikipedia [https://en.wi...'
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 15:30, 28 Ionawr 2020

Arlunydd byd-enwog y cyfnod Rhamantaidd o Lundain oedd Joseph Mallord William Turner (1775-1851). [1] Arferai ddefnyddio pensil, dyfrliw ac olew fel cyfryngau arlunio. Dechreuodd fel artist realistig ond yn gynyddol aeth ei luniau'n fwy argraffyddol. Hoffai yn bennaf ddylunio golygfeydd trawiadol, a daeth ar daith i Ogledd Cymru ym 1798, gan creu lluniau o lawer o olygfeydd cestyll a mynyddoedd, yn eu mysg o leiaf dau o fynydd Y Garn o Lyn Nantlle, sydd yn Oriel y Tate yn Llundain. Ysywaeth, lluniau dyfrliw heb eu gorffen ydynt, yn groes i'r gyfres o luniau gogonedus o harbwr a chastell Caernarfon.


Cyfeiriadau

  1. Erthygl ar Turner yn Wikipedia [1]