Syr William Wynn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Roedd '''William Wynn''' (1679-1754) yn frawd iau Syr John Wynn a fu'n aelod seneddol Bwrdeisdrefi Sir Gaernarfon, 1713-1...'
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 11:14, 27 Ionawr 2020

Roedd William Wynn (1679-1754) yn frawd iau Syr John Wynn a fu'n aelod seneddol Bwrdeisdrefi Sir Gaernarfon, 1713-1749. Ar fawrolaeth Syr Hon, cymerodd William Wynn y sedd drosodd hyd ei farwolaeth yntau ym 1754. Cafodd ei wneud yn farchog ym 1727, wedi iddo ddilyn ei frawd fel gwastrodydd (equerry) i fab y Brenin, a ddaeth yntau'n frenin ar farwolaeth ei dad. Bu hefyd yn gwnstabl Castell Harlech o 1716 hyd ei farwolaeth. Bu'n ddibriod, a sicrhaodd hyn holl ystadau Boduan ar gyfer teulu ei frawd. Yn ystod ei oes, edrychodd ar Blas Boduan fel ei gartref.[1]

  1. History of Parliament, [1]