Edward Haycock: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda ''''Edward Haycock''' (1790-1870) oedd y pensaer a gyflogwyd gan Spencer Bulkeley, 3ydd Arglwydd Newborough i ddylunio'r gwaith ailadeiladu ac ail-greu...'
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 18:54, 19 Ionawr 2020

Edward Haycock (1790-1870) oedd y pensaer a gyflogwyd gan Spencer Bulkeley, 3ydd Arglwydd Newborough i ddylunio'r gwaith ailadeiladu ac ail-greu Plas Glynllifon ar ol y tân trychinebus ym 1836 a adawodd y plasty'n gragen. Mae lle i gredu (o lythyrau Newborough a Haycock at ei gilydd) fod Newborough wedi chwarae rhan eithaf ragweithiol yn y dyluniadau, gyda Haycock yn cyfieithu syniadau a bras-ddyluniadau'r cleient yn gynlluniau pensaernïol cadarn.

Glynllifon oedd unig waith Haycock yn Sir Gaernarfon ond fo oedd pensaer Neuadd Siur feirionnydd (yr hen lys) yn Nolgellau, a fo ddyluniodd dref newydd Aberaeron, ymysg llawer o brosiectau eraill.[1]

Cyfeiriadau

  1. Tudalen Wikipedia ar Edward Haycock Snr. [1]. Mae rhestr bur gyflawn o'i waith i'w gweld yno.