Afon Call: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Neidio i'r panel llywio
Neidio i'r bar chwilio
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Mae '''Afon Call''' yn hen enw sy'n cyfeirio at nant sydd, yn ardal pentref Pant-glas, yn ffurfio ffin ogleddol trefgordd Nancall. Sonnir amdani yn si...' |
(Dim gwahaniaeth)
|
Fersiwn yn ôl 20:01, 5 Ionawr 2020
Mae Afon Call yn hen enw sy'n cyfeirio at nant sydd, yn ardal pentref Pant-glas, yn ffurfio ffin ogleddol trefgordd Nancall. Sonnir amdani yn siartrau Abaty Aberconwy.[1] Mae hi'n codi yn y corsdir i'r dwyrain o fferm Cwmbran, cyn llifo i'r de am ychydig cyn troi tua'r gorllewin. Wrth gyrraedd Pant-glas, mae safle hen felin, Melin Pant-glas. Rhed yr afon o dan bont, Pont Pant-glas, ar ffordd yr A487 ychydig llathenni i'r de o gyffordd ffordd Bwlch Derwin, cyn cyrraedd Afon Dwyfach mewn man a elwid yn Abercall. Mae Abercall tua canllath i'r de o Bont Ynysbyntan.[2]