Lleucu Roberts: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Malan% (sgwrs | cyfraniadau)
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Y llenor cyntaf i ennill y ddwy brif wobr ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru a hynny yn Eisteddfod Sir Gaerfyrddin, 2014: Gwobr Goffa Daniel Owen...'
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 15:14, 23 Tachwedd 2019

Y llenor cyntaf i ennill y ddwy brif wobr ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru a hynny yn Eisteddfod Sir Gaerfyrddin, 2014: Gwobr Goffa Daniel Owen a’r Fedal Ryddiaith. Enillodd wobr Tir na nOg ar sawl achlysur. Bu’n olygydd i Wasg y Lolfa am gyfnod cyn mentro yn llenor amser llawn. Mae hi’n ysgrifennu llyfrau i blant, sgriptiau teledu a storïau a nofelau i oedolion.

Daw o Rydypennau yn wreiddiol ble y derbyniodd ei haddysg gynradd cyn mynychu Ysgol Gyfun Penweddig a Phrifysgol Cymru, Aberystwyth. Mae hi a’i gŵr Arwel “Pod” Roberts wedi ymgartrefu yn Rhostryfan ac yn rhieni i bedwar o blant.

Am ei llyfrau, gweler:[[1]]

Dyma rai ohonynt: 1-6 Cyfres ‘’’’’Yma’’’’’: ‘’Pecyn Trioleg ; Afallon ; Hadau ; Yr Ynys’’ ; 7 ‘’Jwg ar Seld’’ 8 ‘’Saith Oes Efa’’ 9 ‘’Wel, Gymru Fach’’ 10 ‘’Stwff Guto S. Tomos’’ 11 ‘’Y Ferch ar y Ffordd’’ 12 ‘’Annwyl Smotyn Bach’’ 13 ‘’Troi Clust Fyddar’’ 14 ‘’Iesu Tirion” 15 ‘’Caneuon Heddwch”