Y Gurn Ddu: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Neidio i'r panel llywio
Neidio i'r bar chwilio
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Mae ''Gurn Ddu'' yn fynydd uwchben pentref Gurn Goch. Ar yr ochr agosaf at y môr ceir nifer o hen chwareli ithfaen, er nad oedd yr un mor lewyrchus...' |
(Dim gwahaniaeth)
|
Fersiwn yn ôl 11:15, 9 Medi 2019
Mae Gurn Ddu yn fynydd uwchben pentref Gurn Goch. Ar yr ochr agosaf at y môr ceir nifer o hen chwareli ithfaen, er nad oedd yr un mor lewyrchus â chwareli'r Eifl. Ar lethrau uchel y mynydd ar yr ochrau i'r de a'r gorllewin ceir olion hen weithfeydd manganîs o'r 19g. Mae copa'r mynydd 1712 troedfedd (522 metr) uwchben lefel y môr. Dyma, felly, copa uchaf y pum copa Gurn Ddu, Gurn Goch, Bwlch Mawr, Clipuau a Moel Bronmiod. Mae hen bentyrrau o gerrig ar ystys de-ddwyreiniol y mynydd, ac olion hen drigfannau yn y bwlch bach rhwng Gurn Ddu a Gurn Goch.
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma