Cwm Silyn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Mae '''Cwm Silyn''' yn gwm uchel sydd yn gorwedd yng nghysgod Craig Cwm Silyn ar ochr ddeheuol Dyffryn Nantlle. Mae Cwm Silyn ym mhlwyf Llanllyf...'
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 09:46, 3 Medi 2019

Mae Cwm Silyn yn gwm uchel sydd yn gorwedd yng nghysgod Craig Cwm Silyn ar ochr ddeheuol Dyffryn Nantlle. Mae Cwm Silyn ym mhlwyf Llanllyfni. Cwm bychan ydyw, yn cynnwys dau lyn llonydd a thywyll. Mae olion hafoty ar lan y llyn isaf. O geg y llyn isaf, rhed afonig yn syth i'r gogledd ar draws y rhostir cyn syrthio i waelod y dyffryn trwy geunant a chyn cyrraedd Llyn Nantlle Uchaf nid nepell o fferm Tŷ Coch.

Yr unig ffordd hwylus o gyrraedd Cwm Silyn heddiw yw ar hyd llwybr mynydd o gyfeiriad Nebo.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau