Cors y Llyn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Neidio i'r panel llywio
Neidio i'r bar chwilio
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Mae '''Cors y Llyn''' yn ardal o rostir a thir comin rhwng Nebo a Llyn Cwm Dulyn. Dichon fod y gords mor wlyb fel nad yw fawr o ddefnydd ar gyfer...' |
(Dim gwahaniaeth)
|
Fersiwn yn ôl 11:02, 2 Medi 2019
Mae Cors y Llyn yn ardal o rostir a thir comin rhwng Nebo a Llyn Cwm Dulyn. Dichon fod y gords mor wlyb fel nad yw fawr o ddefnydd ar gyfer pori da byw.
Ceir yno llawer o blanhigion diddorol a phrin y corsdiroedd, megis eurinllys y gors, llugaeron, helyg, peiswellt, tegeiriannau a chyfoeth o fwsoglau a llysiau'r iau gyda 12 rhywogaeth o figwyn. Mae'n cynnal nifer o rywogaethau o adar a thrychfilos sydd hefyd yn prinhau. Cofrestrwyd y gors fel Safle Arbennig o Ddiddordeb Gwyddonol.
Mae darn canolog y gors ym Mharc Cenedlaethol Eryri, ond mae'r gweddill wedi ei gofrestru fel tir Cyngor Cymuned Llanllyfni.[1]
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma