Bachwen: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
(Ni ddangosir 1 olygiad rhyngol gan yr un defnyddiwr) | |||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
[[Delwedd:Bachwen.jpg|bawd|350px|de]] | [[Delwedd:Bachwen.jpg|bawd|350px|de]] | ||
Mae '''Bachwen''' yn fferm fawr rhwng pentref [[Clynnog Fawr]] a'r traeth. Mae'n enwog yn benodol am bresenoldeb hen gromlech neu simbr gladdiu ar y tir. Mae'r heneb yn sefyll ar godiad bach o dir allai fod yn olion pentwr o bridd a arferai orchuddio'r siambr gladdu. | Mae '''Bachwen''' yn fferm fawr rhwng pentref [[Clynnog Fawr]] a'r traeth. | ||
Mae'n enwog yn benodol am bresenoldeb hen gromlech neu simbr gladdiu ar y tir. Mae'r heneb yn sefyll ar godiad bach o dir allai fod yn olion pentwr o bridd a arferai orchuddio'r siambr gladdu. Mae'n weddol agos at y môr sydd i'w weld yn glir o'r heneb; gall safle arfordirol fel hyn adlewyrchu pwysigrwydd y môr mewn rhyw ffordd neu'i gilydd i'r rhai a'i gododd. Dyddia'r heneb yn ôl i'r oes gynnar Neolithig, 4200-3500CC.<ref>Gwefan Ancient Monuments, [https://ancientmonuments.uk/128075-bachwen-burial-chamber-clynnog], cyrchwyts 22.8.2019</ref> | |||
Mae'r olion sydd yno bellach yn cynnwys maen capan, sef slab mawr o garreg, gyda phedwar maen sylweddol yn ei gynnal; yr oedd un wedi diflannu, ond fe wnaeth sgweier [[Glynllifon]], [[Frederick George Wynn|F.G. Wynn]] tua diwedd y 19g. osod un newydd yn lle'r un oedd ar goll. Wrth i'r gwaith gael ei wneud, cafwyd hyd i olion palmant o gerrig mân ac olion llwch du. | Mae'r olion sydd yno bellach yn cynnwys maen capan, sef slab mawr o garreg, gyda phedwar maen sylweddol yn ei gynnal; yr oedd un wedi diflannu, ond fe wnaeth sgweier [[Glynllifon]], [[Frederick George Wynn|F.G. Wynn]] tua diwedd y 19g. osod un newydd yn lle'r un oedd ar goll. Wrth i'r gwaith gael ei wneud, cafwyd hyd i olion palmant o gerrig mân ac olion llwch du. |
Golygiad diweddaraf yn ôl 13:20, 22 Awst 2019
Mae Bachwen yn fferm fawr rhwng pentref Clynnog Fawr a'r traeth.
Mae'n enwog yn benodol am bresenoldeb hen gromlech neu simbr gladdiu ar y tir. Mae'r heneb yn sefyll ar godiad bach o dir allai fod yn olion pentwr o bridd a arferai orchuddio'r siambr gladdu. Mae'n weddol agos at y môr sydd i'w weld yn glir o'r heneb; gall safle arfordirol fel hyn adlewyrchu pwysigrwydd y môr mewn rhyw ffordd neu'i gilydd i'r rhai a'i gododd. Dyddia'r heneb yn ôl i'r oes gynnar Neolithig, 4200-3500CC.[1]
Mae'r olion sydd yno bellach yn cynnwys maen capan, sef slab mawr o garreg, gyda phedwar maen sylweddol yn ei gynnal; yr oedd un wedi diflannu, ond fe wnaeth sgweier Glynllifon, F.G. Wynn tua diwedd y 19g. osod un newydd yn lle'r un oedd ar goll. Wrth i'r gwaith gael ei wneud, cafwyd hyd i olion palmant o gerrig mân ac olion llwch du.
Mae dwsinau o bantau cwpan (cup-holes) ar y maen capan nad oes eglurhad ar eu cyfer, er eu bod yn artiffisial.[2]