John Evan Williams: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Hebog (sgwrs | cyfraniadau)
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Prifathro Ysgol Trefor o 1878 tan 1883 oedd John Evan Williams. Fo oedd prifathro cyntaf yr ysgol, sef ysgol y Cwmni Ithfaen Cymreig a agorwyd, gyda 156 o...'
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 20:03, 2 Gorffennaf 2019

Prifathro Ysgol Trefor o 1878 tan 1883 oedd John Evan Williams. Fo oedd prifathro cyntaf yr ysgol, sef ysgol y Cwmni Ithfaen Cymreig a agorwyd, gyda 156 o ddisgyblion, ar y 12fed o Awst 1878.

Fe'i ganwyd ym 1856 yn fab i John Williams, brodor o Fangor oedd yn saer coed ar Stad y Penrhyn, a'i wraig Jane Williams, genedigol o Everton ac yn wneuthurwraig hetiau. Eu cartref oedd Trefelin, Llandygai ger Bangor. Bu'n ddisgybl yn ysgol y pentref hwnnw.

Oherwydd cwymp sydyn yn y fasnach gerrig, caewyd Chwarel yr Eifl ar yr 22ain o Fawrth 1883. Oherwydd hyn, cwta fis yn ddiweddarach, ar y 24ain o Ebrill 1883, caeodd y Cwmni Ithfaen Cymreig yr ysgol gan ddiswyddo yr holl staff. Bu'r ysgol ynghau tan y cyntaf o Hydref 1883.