William Lewis: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Hebog (sgwrs | cyfraniadau)
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Y Parchedig William Lewis oedd awdur yr englynion o fawl i Seindorf Arian Dyffryn Nantlle. Roedd y Seindorf wedi cael ei hail set o offerynnau ym 1885 w...'
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 17:30, 1 Gorffennaf 2019

Y Parchedig William Lewis oedd awdur yr englynion o fawl i Seindorf Arian Dyffryn Nantlle.

Roedd y Seindorf wedi cael ei hail set o offerynnau ym 1885 wedi ymdrech fawr a brwdfrydig i godi'r arian angenrheidiol, sef £300. Codwyd yr arian a chliriwyd y ddyled yn llawn.

I ddathlu'r achlysur, rhoddodd Thomas Griffith, tafarnwr y Nantlle Vale Hotel, Tal-y-sarn, swper mawr i ddeugain o westeion yn y dafarn, ar nos Iau y pedwerydd o Chwefror, 1886. Cyfansoddodd y bardd ei englynion yn arbennig ar gyfer y dathlu ac fe'u darllenwyd ganddo yn y swper.


Curo yn awr â'u cyrn arian - yn hawdd

Wna'n band ni ym mhobman ;

Treigla'u bri fel cewri cân

I drefi holl bedryfan.


Lle mae iach wŷr gwell am chware - yn bod?

Does mo'u bath yn unlle ;

A chlir rhown uchel hwrê

Yn unllais i Fand Nan'lle.


Defnyddiwyd y cyrn yma am dros chwarter canrif. Prynodd y Band set newydd ym 1913. Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma