Joseph Williams, Trefor: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Hebog (sgwrs | cyfraniadau)
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Cerddor ifanc dawnus dros ben oedd Joseph Williams ''(Joe Bach)'', Stryd 'Rafon, Trefor. Fo oedd prif gornedydd Seindorf Arian Trefor ac yn chwaraewr pen...'
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 00:02, 29 Mehefin 2019

Cerddor ifanc dawnus dros ben oedd Joseph Williams (Joe Bach), Stryd 'Rafon, Trefor. Fo oedd prif gornedydd Seindorf Arian Trefor ac yn chwaraewr penigamp. Roedd hefyd yn dechrau cyfansoddi cerddoriaeth, emyn-donau'n bennaf, yn ystod blynyddoedd canol y 1920'au ac yn arbennig ar gyfer y band i'w chwarae. Un o'r tonau hynny oedd Godre'r Eifl sy'n dal i gael ei chwarae gan seindorf bresennol Trefor yn 2019.

Un dydd Sadwrn ym 1928, ac yntau'n 24 oed, prynodd foto-beic newydd iddo'i hun a'r bore Llun dilynol mentrodd fynd arno i'w waith yn Chwarel Cae'r Nant yn Nant Gwrtheyrn. Ond pan yn cymryd tro cas Pont Tyddyn Drain rhwng Trefor a Llanaelhaearn, rhwygodd y teiar blaen a thaflu Joseph druan yn erbyn wal gerrig y bont. Cafodd niweidiau garw i'w ben gan nad oedd yn gwisgo helmed o unrhyw fath, fel y rhelyw o yrrwyr moto-beics y cyfnod.

Aed ag ef adref gan Dr. Rowlands, Llanaelhaearn, ond gwaethygodd ei gyflwr ac aed ag ef i Ysbyty'r Bwth yng Nghaernarfon lle bu farw'n ddiweddarach.

Fel mae'n arfer, ac yn dal felly yn Nhrefor, pan fo aelod o'r band yn marw, fod y band i arwain yr orymdaith angladdol a chwarae ar lan y bedd. Bu'n rhaid ymarfer martsio a chwarae'r Dead March from Saul yn ddigon pell o glyw y teulu galarus ac fe wnaed hynny ger Swyddfa'r Chwarel.[1] Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

  1. Cywrain Wŷr y Cyrn Arian gan Geraint Jones 1988 t.64