Llys Chwarter: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Y '''Llys Chwarter''' oedd y corff pwysicaf o ran rheoli'r sir rhwng 1541 a 1889, gan weithredu'n gynyddol fel cyngor sir yn ogystal â chosbi troseddwyr...' |
(Dim gwahaniaeth)
|
Fersiwn yn ôl 18:44, 27 Mehefin 2019
Y Llys Chwarter oedd y corff pwysicaf o ran rheoli'r sir rhwng 1541 a 1889, gan weithredu'n gynyddol fel cyngor sir yn ogystal â chosbi troseddwyr - yn edrych ar ôl y tlodion, ffyrdd, pontydd, pwysau a mesurau ac ati. Ond yr oedd un gwahaniaeth mawr: yr ynadon lleol oedd yn ffurfio'r aelodaeth, yr oeddynt i gyd yn aelodau o'r dosbarth uchaf, ariannog a chawsent eu penodi nid eu hethol. yn Uwchgwyrfai, teulu Glynllifon oedd yr aelodau mwyaf cyson a dylanwadol.
Mae archifau cyfoethog y llys yn Archifdy Caernarfon[1] yn cofnodi gweithgaredd a phenderfyniadau'r Llys Chwarter, ac yn cynnig ffynhonell ddi-ail ar gyfer astudio hanes cymdeithasol Uwchgwyrfai.
Collodd y Llys Chwarter y rhan fwyaf o'i bwerau gweinyddol ar ffurfiad y cynghorau sir ym 1889; daeth i ben fel llys troseddol ym 1972.
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma
Cyfeiriadau
- ↑ Archifdy Caernarfon, XQS/1541-1888