Band Ceidwadwyr Pen-y-groes: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Hebog (sgwrs | cyfraniadau) Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Ychydig iawn o hanes Band Ceidwadwyr Pen-y-groes sydd ar gael. Mae'n eitha tebygol mai rhyw fand bychan o bigion adar Toriaidd gwahanol fandiau'r ardal oe...' |
(Dim gwahaniaeth)
|
Fersiwn yn ôl 11:29, 27 Mehefin 2019
Ychydig iawn o hanes Band Ceidwadwyr Pen-y-groes sydd ar gael. Mae'n eitha tebygol mai rhyw fand bychan o bigion adar Toriaidd gwahanol fandiau'r ardal oedd hwn, yn rhoi ei wasanaeth ar adegau neilltuol megis etholiadau neu ymweliadau gwleidyddion Toriaidd pwysig â'r fro.
Meddai un gohebydd o'r cyfnod amdano : Wnaeth y seindorf na'r blaid fawr o gynnydd yn yr ardal oedd yn enwog y pryd hynny fel cadarnle Rhyddfrydiaeth.
Dyma'r band a arweiniodd yr orymdaith fawr yng Nghaernarfon adeg ymweliad yr Arglwydd Salisbury â'r dref yn rhan olaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg.
Arferai'r band chwarae hyd strydoedd Pen-y-groes ar nos Galan. Yr arweinydd bryd hynny oedd J.E.Jones, Y Gors, fu hefyd yn arweinydd Band Nebo am gyfnod. Bu ef farw ym Mhontypridd, Morgannwg, ac yno y'i claddwyd.[1]
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma
- ↑ Cyrn y Diafol gan Geraint Jones 2004 t.46