Band Carmel: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Hebog (sgwrs | cyfraniadau)
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Ffurfiwyd Band Carmel ym mlynyddoedd olaf y 1870'au a hynny mewn cysylltiad â Chlwb Carmel, y 'Gymdeithas Gyfeillgar' fel y'i gelwid. Mae'n amlwg mai dyn...'
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 22:57, 26 Mehefin 2019

Ffurfiwyd Band Carmel ym mlynyddoedd olaf y 1870'au a hynny mewn cysylltiad â Chlwb Carmel, y 'Gymdeithas Gyfeillgar' fel y'i gelwid. Mae'n amlwg mai dyna pam y rhoddwyd yr enw crand Uwchllifon Brass Band ar yr ensemble fechan hon.

Oes fer, fodd bynnag, fu i Fand Carmel druan, ac ychydig iawn o'i hanes sydd ar gael yn unman. Gwyddom iddo fod yn difyrru plant ac athrawon Ysgol Sul Capel y Cilgwyn ym 1879, wedi i'r rheini gael eu gwala a'u gweddill o de a bara brith. Dyma'r math poblogaidd o barti'r oes honno - 'te-parti' yn llythrennol felly. [1]

  1. Cyrn y Diafol gan Geraint Jones 2004