Ysgol Gynradd Clynnog Fawr: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Dim crynodeb golygu |
Dim crynodeb golygu |
||
(Ni ddangosir y 3 golygiad yn y canol gan 2 ddefnyddiwr arall) | |||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
Yr Ysgol Genedlaethol y gelwid yr ysgol hon ar y dechrau. | Yr Ysgol Genedlaethol y gelwid yr ysgol hon ar y dechrau. | ||
Fe'i hagorwyd ar 2 Hydref 1850, fel y cofnododd Eben Fardd yn ei ddyddiadur.* | Fe'i hagorwyd ar 2 Hydref 1850,fel y cofnododd Eben Fardd yn ei ddyddiadur.* (Roedd ysgol yng Nghlynnog cyn hyn). [[Ysgol Eben Fardd]] | ||
Erbyn 1889, fodd bynnag, roedd safon yr addysg yn druenus o isel a theimlai’r rhieni fod eu plant yn cael cam dybryd.** | Erbyn 1889, fodd bynnag, roedd safon yr addysg yn druenus o isel a theimlai’r rhieni fod eu plant yn cael cam dybryd.** | ||
Y Ficer oedd yn “gofalu” am yr ysgol ond trwy weithgarwch | Y Ficer oedd yn “gofalu” am yr ysgol ond trwy weithgarwch [[Arthur Acland]], A.S. (a drigai ym Mhlas-y-bryn am gyfnodau o’r flwyddyn), boneddigion eraill (yn eu plith: Y Parch. J. Evans, B.A.; Capten Griffith, Frondirion; Mr. J. Owen, Tycerrig; Mr David Williams, Pontlyfni; a Hywel Tudur), a thrwy gydsyniad y ficer, trefnwyd cyfarfod cyhoeddus i ystyried y camre i geisio codi'r safon. Awgrymodd Mr Acland benodi pwyllgor o bum trethdalwr i arolygu’r ysgol ac i’r Ficer ddewis tri o’i ochr ei hun. Gwrthododd y ficer gan honni mai ganddo ef yr oedd yr hawl i weithredu fel y mynnai, ond fe fodlonai ar roi cynnig ar bedwar o bob ochr am flwyddyn. Gwrthodwyd y cynnig a gohiriwyd y cyfarfod am rai dyddiau. | ||
Mynnai’r Ficer gychwyn yr ail gyfarfod trwy ddarllen rhestr o’r tanysgrifiadau tuag at gynhaliaeth yr ysgol a chynigiodd ef ei hun dalu punt. Tynnwyd ei sylw at y ffaith mai dewis pwyllgor oedd pwrpas y cyfarfod. Awgrymodd y Ficer wedyn y buasai ef a Mr Acland yn cyfrannu £5 yr un. Gwrthododd Mr Acland gan nad dyna oedd pwrpas y cyfarfod. | Mynnai’r Ficer gychwyn yr ail gyfarfod trwy ddarllen rhestr o’r tanysgrifiadau tuag at gynhaliaeth yr ysgol a chynigiodd ef ei hun dalu punt. Tynnwyd ei sylw at y ffaith mai dewis pwyllgor oedd pwrpas y cyfarfod. Awgrymodd y Ficer wedyn y buasai ef a Mr Acland yn cyfrannu £5 yr un. Gwrthododd Mr Acland gan nad dyna oedd pwrpas y cyfarfod. | ||
Llinell 28: | Llinell 28: | ||
[[Categori:Addysg]] | [[Categori:Addysg]] | ||
[[Categori:Ysgolion]] | [[Categori:Ysgolion]] |
Golygiad diweddaraf yn ôl 10:05, 10 Mehefin 2019
Yr Ysgol Genedlaethol y gelwid yr ysgol hon ar y dechrau.
Fe'i hagorwyd ar 2 Hydref 1850,fel y cofnododd Eben Fardd yn ei ddyddiadur.* (Roedd ysgol yng Nghlynnog cyn hyn). Ysgol Eben Fardd
Erbyn 1889, fodd bynnag, roedd safon yr addysg yn druenus o isel a theimlai’r rhieni fod eu plant yn cael cam dybryd.**
Y Ficer oedd yn “gofalu” am yr ysgol ond trwy weithgarwch Arthur Acland, A.S. (a drigai ym Mhlas-y-bryn am gyfnodau o’r flwyddyn), boneddigion eraill (yn eu plith: Y Parch. J. Evans, B.A.; Capten Griffith, Frondirion; Mr. J. Owen, Tycerrig; Mr David Williams, Pontlyfni; a Hywel Tudur), a thrwy gydsyniad y ficer, trefnwyd cyfarfod cyhoeddus i ystyried y camre i geisio codi'r safon. Awgrymodd Mr Acland benodi pwyllgor o bum trethdalwr i arolygu’r ysgol ac i’r Ficer ddewis tri o’i ochr ei hun. Gwrthododd y ficer gan honni mai ganddo ef yr oedd yr hawl i weithredu fel y mynnai, ond fe fodlonai ar roi cynnig ar bedwar o bob ochr am flwyddyn. Gwrthodwyd y cynnig a gohiriwyd y cyfarfod am rai dyddiau.
Mynnai’r Ficer gychwyn yr ail gyfarfod trwy ddarllen rhestr o’r tanysgrifiadau tuag at gynhaliaeth yr ysgol a chynigiodd ef ei hun dalu punt. Tynnwyd ei sylw at y ffaith mai dewis pwyllgor oedd pwrpas y cyfarfod. Awgrymodd y Ficer wedyn y buasai ef a Mr Acland yn cyfrannu £5 yr un. Gwrthododd Mr Acland gan nad dyna oedd pwrpas y cyfarfod.
Bu rhagor o ymgecru ac edliwiwyd i Mr Price, y Ficer, fod pobl yn talu cannoedd o bunnau yn flynyddol tuag at ei gadw ef i bregethu i ryw 20 neu 30 o’r plwyfolion. Honnwyd ei fod newydd dderbyn 180 punt o godiad yn ei gyflog a nodwyd ei fod yn derbyn y swm o 500 punt y flwyddyn. Gwadu wnaeth y Ficer a daeth y cyfarfod i ben heb unrhyw benderfyniad.[1]
Ceir adroddiad llawn am yr hanes cyffrous hwn gan “Carwr Cyfiawnder” yn Y Genedl Gymreig, 13 Chwefror 1889. (Papurau newydd ar-lein Cymru).
Ffynonellau
Llyfrau log Ysgol Gynradd Clynnog (Gwasanaeth Archifau Gwynedd) XES1/53 [1863-1970]
- Detholion o Ddyddiadur Eben Fardd, Gwasg Prifysgol Cymru, 1968. Golygwyd gan E.G. Millward)
- Ceir adroddiad llawn am yr hanes hwn gan “Carwr Cyfiawnder” dan y pennawd Addysg yng Nghlynnog Cyfarfodydd brwdfrydig a chynhyrfus yn Y Genedl Gymreig, 13 Chwefror 1889. (Papurau newydd ar-lein Cymru).
- ↑ am gyflogau personiaid rai blynyddoedd ynghynt gweler Cof y Cwmwd: Categori Pobl: Robert Williams, Llwyndu, Pen-y-groes, dan hanes llyfryn ei fab enwog, Thomas Roberts, Llwynrhudol: Cwyn yn erbyn Gorthrymder