Siôn Prichard Prys: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Roedd '''Siôn Prichard Prys''' (bu farw 1724) yn fardd o Eglwysael (Llangadawaladr), Ynys Môn. Yng nghyd-destun Uwchgwyrfai, cyfansoddodd farwnad i...'
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 11:01, 3 Mehefin 2019

Roedd Siôn Prichard Prys (bu farw 1724) yn fardd o Eglwysael (Llangadawaladr), Ynys Môn. Yng nghyd-destun Uwchgwyrfai, cyfansoddodd farwnad i Edmund Price, ficer Clynnog Fawr, a fu farw ym 1721. Roedd yn fardd a ysgrifennodd mewn amryw o ffurfiau, o gywyddau ac englynion i gerddi rhydd. Nid yw'n hollol glir beth oedd ei gysylltiad ag Edmund Price ond o'r cywydd mae'n amlwg ei fod yn gyfarwydd â'r teulu ac â'r eglwys. Mae'r marwnad ar ffurf ymgom rhwng y prydydd a'r eglwys, yn galaru am y gwrthrwch.[1]

Mae'r marwnad dan sylw wedi ei atgynhyrchu yn erthygl Cof y Cwmwd ar Edmund Price. Ceir copi gweriddiol onono yn y Llyfrgell Genedlaethol.[2]

Cyfeiriadau

  1. Y Bywgraffiadur Cymreig, (Llundain, 1953), t.759
  2. Llsg. Peniarth 196, t.20