W.R. Ambrose: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Neidio i'r panel llywio
Neidio i'r bar chwilio
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Yr oedd y Parch. W.R. Ambrose yn weinidog ym mhentref Tal-y-sarn pan enillodd gystadleuaeth yn Eisteddfod Gadeiriol Pen-y-groes, Llun y Pasg 1...' |
(Dim gwahaniaeth)
|
Fersiwn yn ôl 14:48, 17 Mai 2019
Yr oedd y Parch. W.R. Ambrose yn weinidog ym mhentref Tal-y-sarn pan enillodd gystadleuaeth yn Eisteddfod Gadeiriol Pen-y-groes, Llun y Pasg 1871, gyda'i draethawd hir Hynafiaethau, Cofiannau a Hanes Presennol Nant Nantlle, pan ddefnyddiodd y ffugenw Maeldaf Hen. Fe'i gyhoeddwyd y flwyddyn ganlynol gan argraffydd lleol, Griffith Lewis. Mae'n un o'r llyfrau cyntaf i ymdrin ahanes Dyffryn Nantlle ac mae'n llawn o straeon a ffeithiau tra buddiol a diddorol.
Oherwydd ei werth parhaol, ailgyhoeddwyd y llyfr gan Gangen Dyffryn Nantlle o Fudiad Adfer ym 1985.
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma