Pont droed ger Chatham: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Mae '''pont droed ger Chatham''' ar draws Afon Carrog ar Lwybr yr Arfordir. Arferai fod ffordd drol lydan yn arwain o ffordd ...'
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 11:39, 11 Ebrill 2019

Mae pont droed ger Chatham ar draws Afon Carrog ar Lwybr yr Arfordir. Arferai fod ffordd drol lydan yn arwain o ffordd Saron i Landwrog at ryd ac wedyn ar hyd Y Cob neu forglawdd Morfa Dinlle. Wrth ochr y rhyd fe godwyd pompren sydd i'w gweld ar fap Ordnans 1888 ymlaen. Yn bur ddiweddar ailadeiladwyd y bont bresennol sydd bellach yn cario Llwybr yr Arfordir dros yr afon. Mae'r rhyd a'r ffordd drol wedi diflannu dan dyfiant, er bod llwybr cyhoeddus yn dilyn llinell yr hen ffordd.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau