Pont yr Henryd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Saif '''Pont yr Henryd''' (neu Bont yr Hen Ryd) ym mhlwyf Llanwnda ger Tyddyn y Berth. Fe'i hailadeiladwyd ym 1837 i gynllun gan John Lloyd, syrfewr y...'
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 10:50, 5 Ebrill 2019

Saif Pont yr Henryd (neu Bont yr Hen Ryd) ym mhlwyf Llanwnda ger Tyddyn y Berth. Fe'i hailadeiladwyd ym 1837 i gynllun gan John Lloyd, syrfewr y sir, gan Owen Williams, saer maen o Gaernarfon. Y gost oedd £28, ac oedd y swm hwnnw i dalu hefyd am ailwneud 200 llath o fetlin ar y ffordd. Diddorol yw sywli fod Owen Williams, er yn grefftwr, yn methu llofnodi ei enw ar y contract, gan wneud croes yn ei le.[1]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. Archifdy Gwynedd, XPlansB/44