Pont Dolydd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Saif '''Pont Dolydd''' ar yr hen ffordd dyrpeg rhwng Fingar a phentref Y Groeslon ym mhentrefan Dolydd, lle mae Afon Wyled yn ymuno â'r [...'
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 14:43, 7 Mawrth 2019

Saif Pont Dolydd ar yr hen ffordd dyrpeg rhwng Fingar a phentref Y Groeslon ym mhentrefan Dolydd, lle mae Afon Wyled yn ymuno â'r Afon Carrog. Pont un bwa ydyw, yn cario lôn lydan dros y dŵr. Dichon mai rhyd oedd yma yn wreiddiol, gan nad yw'r naill afon na'r llall yn ddwfn, ond codwyd y bont bresennol tua 1810 pan ffurfiwyd y ffyrdd tyrpeg yn yr ardal. Sail lle mae hen lwybrau o'r mynydd i'r môr yn croesi'r ffordd sy'n arwain o Gaernarfon i gyfeiriad Dyffryn Nantlle. Pan agorwyd ffordd osgoi ym 2001, fe ddad-drynceiddiwyd y ffordd, ac fel rhan o'r fargen cafodd y Cyngor Sir arian i ddiogelu a chryfhau pontydd yr hen lôn cyn iddi beiidio â bod yn rhan o'r A487. Yr adeg honno, gwaned gwaith atgyweirio ar Bont Dolydd.[1]

Cyfeiriadau

  1. Atgofion personol