Llyn Nantlle Uchaf: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda ''''Llyn Nantlle Uchaf''' yw enw cywir y llyn a elwir heddiw fel arfer yn ''Llyn Nantlle''. Tan ddiwedd y 19g., roedd Llyn Nantlle Isaf hefyd i'w weld,...'
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 20:20, 28 Ionawr 2019

Llyn Nantlle Uchaf yw enw cywir y llyn a elwir heddiw fel arfer yn Llyn Nantlle. Tan ddiwedd y 19g., roedd Llyn Nantlle Isaf hefyd i'w weld, gyda ond stribyn tenau o dir yn gwahanu'r ddau lyn, ger Baladeulyn, sef y man lle ymuna ddau lyn â'i gilydd. Rhed Afon Drws-y-coed, a sawl afonig arall megius Afon Garth i'r llyn, ac o'r llyn mae Afon Llyfnwy'n llifo trwy safle'r llyn isaf ac ymlaen trwy Llanllyfni at y môr ym Mhontlyfni. Erbyn hyn, ame'r ail lyn wedi diflannu o dan wastraff y chwareli a chynllun dargyfeirio'r afon.

Mae'r llyn yn cael ei ddefnyddio fel llyn pysgota eogiaid a brithyll, ac mae llun enwog Richard Wilson o Lyn Nantlle a'r Wyddfa yn dangos nifer o bysgotwyr ar y lan ac mewn cychod. Ym 1889, amddiffynnodd David Lloyd George dri dyn lleol a gyhuddwyd o bysgota yn y llyn gan Frwdd Cadwraethwyr Pysgodfa Seiont, Gwyrfai a Llyfnwy[1]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. North Wales Observer, Mai 1889.