Pont Gelli-ffrydiau: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Neidio i'r panel llywio
Neidio i'r bar chwilio
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Saif '''Pont y Gelli''' ar y B4410, sef yr hen ffordd dyrpeg, ger y tŷ tyrpeg rhwng Nantlle a Drws-y-coed. Bwa syml wedi ei wne...' |
(Dim gwahaniaeth)
|
Fersiwn yn ôl 16:18, 26 Ionawr 2019
Saif Pont y Gelli ar y B4410, sef yr hen ffordd dyrpeg, ger y tŷ tyrpeg rhwng Nantlle a Drws-y-coed. Bwa syml wedi ei wneud o gerrig yw’r bont, tua 12 troedfedd o led a phen y bwa 12 troedfedd uwchben dwr yr afon. Fe adeiladwyd yn newydd ym 1855, a rhaid oedd i’r contractwr ddarparu ffordd dros dro tra oedd y gwaith yn mynd rhagddo. William Thomas, adeiladydd o Ffordd Ysgubor Degwm yng Nghaernarfon oedd yr ymgymerwr. Cost y gwaith oedd £52.10s.[1]
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma
Cyfeiriadau
- ↑ Archifdy Caernarfon, XPlansB/29