Catherine Bulkeley: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Neidio i'r panel llywio
Neidio i'r bar chwilio
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Yn ol yr hanes roedd Catrin Bulkeley o Eithinog yn gariad i Rhys o Elernion. Un diwrnod, a Rhys yn marchogaeth i gyfarfod Catrin, cododd storm enbyd. Ment...' |
(Dim gwahaniaeth)
|
Fersiwn yn ôl 20:25, 27 Rhagfyr 2018
Yn ol yr hanes roedd Catrin Bulkeley o Eithinog yn gariad i Rhys o Elernion. Un diwrnod, a Rhys yn marchogaeth i gyfarfod Catrin, cododd storm enbyd. Mentrodd rydio Afon Llyfni ond roedd y llifeiriant yn rhy gryf iddo a'r gwynt yn ei erbyn. Methodd yn glir a chyrraedd y lan ac fe'i boddwyd yn y fan a'r lle er mawr drallod i bawb ac i Catrin yn arbennig.
Yn ddiweddarach codwyd pont ar y safle y digwyddodd y trychineb ac arni'r ysgrifen: "Catring Buckle hath give twenty poundes to mack this brighe 1612".
Yng nghyflawnder yr amser gwisgodd yr ysgrifen a phenderfynodd Ysgol Brynaerau osod llechen ar ganllaw'r bont a thorrwyd y llythrennau gwreiddiol uchod arni i gofnodi'r hanes.