Cangen Bryngwyn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda '300px|bawd|de|Gorsaf Bryngwyn ym 1934 Gorsaf '''Bryngwyn''' oedd yr orsaf derfynnol ar gyfer teithwyr ar Gangen r...'
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 08:54, 23 Hydref 2018

Gorsaf Bryngwyn ym 1934

Gorsaf Bryngwyn oedd yr orsaf derfynnol ar gyfer teithwyr ar gangen Rheilffyrdd Cul Gogledd Cymru ("y North Wales Narrow Gauge Railways") a gychwynnodd o'r prif lein yng Nghyffordd Tryfan gan redeg trwy Rostryfan. Safai ar waelod incléin hir a gludai wagenni llawn o lechi o chwareli o amgylch Moel Tryfan a'r Fron. Daeth cludo teithwyr i ben ar y gangen 31 Rhagfyr 1913. Parhaodd trenau nwyddau i gludo llechi oddi yno nes i'r chwareli ddechrau cludo eu llechi ar gefn lorïau i Ben-y-groes lle oedd man llwytho llechi wedi cael ei godi gan y lein fawr ym 1933. Y prif ddosbarth arall o nwyddau a gludid oedd glo ar gyfer pentrefi'r ucheldir gerllaw. Yn swyddogol, daeth pob gwasanaeth i ben ym 1937 a chodwyd y lein yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma