Clwb Beicio'r Eifl: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
(Ni ddangosir 1 olygiad rhyngol gan yr un defnyddiwr) | |||
Llinell 6: | Llinell 6: | ||
Hefyd bu i dri o’n haelodau wynebu her ‘O’r Bae i’r Bae ar y Beics’ ym mis Gorffennaf i godi arian at Elusen Awyr Las a Ward Alaw, Ysbyty Gwynedd. | Hefyd bu i dri o’n haelodau wynebu her ‘O’r Bae i’r Bae ar y Beics’ ym mis Gorffennaf i godi arian at Elusen Awyr Las a Ward Alaw, Ysbyty Gwynedd. | ||
[[Categori:Chwaraeon]] | |||
[[Categori:Cymdeithasau]] |
Golygiad diweddaraf yn ôl 18:37, 26 Medi 2018
Mae Clwb Beicio’r Eifl yn glwb a ffurfiwyd yn 2015 ar gyfer beicwyr o bob safon yn ardal Trefor a thu hwnt. Ei amcan yw hyrwyddo a datblygu’r gamp boblogaidd hon er lles cymunedol, cymdeithasol a chorfforol, a hynny mewn awyrgylch o hwyl, brawdgarwch a diogelwch.
Rydym yn byw yn un o ardaloedd hyfrytaf Cymru os nad y byd, mewn ardal sy’n cynnwys rhai o ffyrdd a llwybrau beicio mwyaf eiconig Cymru, ac mae cael mwynhau golygfeydd trawiadol Llŷn, Eifionydd ac Eryri gyda chriw o ffrindiau yn bleser heb ei ail i bob aelod.
Rydym hefyd yn rhoi pwyslais mawr ar godi arian at achosion da sy’n agos iawn at ein calonnau. Ers rhai blynyddoedd mae nifer o’n haelodau wedi bod yn trefnu a chymryd rhan yn nheithiau 3 diwrnod blynyddol y ‘Seiclôn’ er mwyn codi arian at Fâd Achub Porthdinllaen, ac mae hwnnw’n un o uchafbwyntiau ein calendr bellach.
Hefyd bu i dri o’n haelodau wynebu her ‘O’r Bae i’r Bae ar y Beics’ ym mis Gorffennaf i godi arian at Elusen Awyr Las a Ward Alaw, Ysbyty Gwynedd.