Rheilffordd Llundain a'r Gogledd Orllewin (LNWR): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Un o brif gwmnïau rheilffordd Prydain oedd '''Rheilffordd Llundain a'r Gogledd-Orllewin''' ('London and North Western Railway' neu LNWR). Fe'i sefydlwyd...'
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 19:13, 18 Hydref 2017

Un o brif gwmnïau rheilffordd Prydain oedd Rheilffordd Llundain a'r Gogledd-Orllewin ('London and North Western Railway' neu LNWR). Fe'i sefydlwyd ym 1846, ac wrth brynu cwmni Rheilffordd Caer a Chaergybi a oedd â changen a redai i Gaernarfon, fe ddaeth yn un o gwmnïau rheilffordd pwysicaf yng Nghymru. Estynnwyd ei ddylanwad i Uwchgwyrfai wedi iddo gymryd Cwmni Rheilffordd Sir Gaernarfon drosodd yn unol â deddf seneddol ym 1870.

Y cwmni hwn felly oedd yn gyfrifol am yr holl gledrau a osodwyd gyda'r lled safonol o 4'8 1/2" yn Uwchgwyrfai, sef y lein o Gaernarfon heibio Dinas a Phen-y-groes ac ymlaen am Fryncir ac Afon-wen, ynghyd â Changen Nantlle. Aeth yr LNWR yn rhan o Reilffordd Llundain, Canolbarth Lloegr a'r Alban (LMS) ym 1923, ac yn 1947 aeth yr LMS yn rhan o'r Reilffyrdd Prydeinig.