Bysus Huw: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda ''''Bysus Huw''' oedd yr enw a ddefnyddid ar ochr bysiau a redwyd gan Cwmni Tacsi Gwynedd Cyf i wahanol rannau o Ddyffryn Nantlle, wedi i gwmni Express M...'
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 09:10, 17 Medi 2018

Bysus Huw oedd yr enw a ddefnyddid ar ochr bysiau a redwyd gan Cwmni Tacsi Gwynedd Cyf i wahanol rannau o Ddyffryn Nantlle, wedi i gwmni Express Motors golli ei drwydded i redeg gwasnaethau ddechrau 2018. Ddiwedd Awst 2018, fodd bynnag, tynnodd y Comisiynwyr Traffig y drwydded oddi ar gwmni Tacsi Gwynedd, ac ers hynny mae cwmni Bysus Gwynfor o Langefni wedi bod yn gyftifol am y rhan fwyaf o wasanaethau 1A, 1F a 1N rhwng pentrefi Dyffryn Nantlle a Chaernarfon.