Sir Gaernarfon: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Neidio i'r panel llywio
Neidio i'r bar chwilio
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda ''''Sir Gaernarfon'' yw enw'r sir yr oedd tir Uwchgwyrfai'n perthyn iddi o gyfnod goresgyniad y wlad gan y Saeson ym 1284, pan ffurfiwyd siroedd yn unol â...' |
(Dim gwahaniaeth)
|
Fersiwn yn ôl 18:27, 3 Medi 2018
'Sir Gaernarfon yw enw'r sir yr oedd tir Uwchgwyrfai'n perthyn iddi o gyfnod goresgyniad y wlad gan y Saeson ym 1284, pan ffurfiwyd siroedd yn unol â'r patrwm Seisnig yng ngogledd Cymru, hyd 1974 pan adrefnwyd llywodraeth leol yng Nghymru, gan ffurfio siroedd mwy, ac aeth Sir Gaernarfon i gyd yn rhan o sir newydd, Sir Gwynedd.
Rheolid y sir gan yr ynadon o 1536 ymlaen trwy'r Llys Chwarter, nes ffurfio Cyngor Sir Gaernarfon ym 1889.