Cyngor Sir Gwynedd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda ''''Cyngor Sir Gwynedd''' oedd y prif awdurdod lleol a reolai Uwchgwyrfai rhwng 1974 a 1996. Cymerwyd yr enw o hen dywysogaeth Gwynedd. Fe'i ffurfi...'
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 10:12, 1 Medi 2018

Cyngor Sir Gwynedd oedd y prif awdurdod lleol a reolai Uwchgwyrfai rhwng 1974 a 1996. Cymerwyd yr enw o hen dywysogaeth Gwynedd. Fe'i ffurfiwyd yn fras trwy gyfuno tiriogaeth Sir Gaernarfon, Sir Feirionnydd (heblaw am Edeirnion),Ynys Môn a rhannau o Sir Ddinbych. Roedd pencadlys y sir yng Nghaernarfon. Ad-drefnwyd y siroedd ym 1996, ac uned lai, sef Cyngor Gwynedd, a gymerodd ei le, lle 'roedd Uwchgwyrfai yn y cwestiwn.