Rheilffordd Chwareli Llechi Sir Gaernarfon: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda ''''Rheilffordd Chwareli Llechi Sir Gaernarfon''' oedd yr enw mawreddog a roddwyd i'r lein 3' 6" o led a redai o gyffordd â lein Rheilffordd Nantlle g...'
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 16:54, 23 Awst 2018

Rheilffordd Chwareli Llechi Sir Gaernarfon oedd yr enw mawreddog a roddwyd i'r lein 3' 6" o led a redai o gyffordd â lein Rheilffordd Nantlle ger Pant Du ar draws y dyffryn i gyfeiriad Tan'rallt, gan wasanaethu Chwarel lechi Tan'rallt, Chwarel lechi Fronheulog a rhai chwareli bychain eraill. Fe'i hadeiladwyd, mae'n debyg, yn ystod y 1850au. Wedi i Reilffordd Nantlle gael ei chau, a Rheilffordd Sir Gaernarfon gyda'i thrac 4' 8½" adeiladu cangen i Dal-y-sarn, ffurfiwyd seidin yno i drawslwytho'r llechi. Defnyddid ceffylau i lusgo'r wagenni ar hyd-ddi gydol oes y lein, a gaewyd tua 1915.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau