Pont Faen (Llanwnda): Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Neidio i'r panel llywio
Neidio i'r bar chwilio
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda ''''Pont Faen''' yw'r bont isaf ar Afon Gwyrfai, ac mae wedi rhoi ei enw i'r fferm gerllaw. Saif ar ffin cwmwd Uwchgwyrfai ger pentref modern Sar...' |
(Dim gwahaniaeth)
|
Fersiwn yn ôl 09:21, 19 Gorffennaf 2018
Pont Faen yw'r bont isaf ar Afon Gwyrfai, ac mae wedi rhoi ei enw i'r fferm gerllaw. Saif ar ffin cwmwd Uwchgwyrfai ger pentref modern Saron, rhwng plwyfi Llanwnda a Llanfaglan (sydd yn Isgwyrfai), ar y ffordd o Gaernarfon i Landwrog. Ar un adeg roedd ffrwd felin yn rhedeg o'r afon ben ucha'r bont i'r felin, Melin y Bont-faen, a safai ychydig yn nes at y môr. Gan fod y felin honno wedi ei hadeiladu tua dechrau'r 17g, dichon bod bont gynharach na'r un bresennol wedi croesi'r afon yn y fan hon.
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma