Afon Foryd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Mae '''Afon Foryd''' yn codi yn y corsdir rhwng pentrefi Dinas Dinlle a Llandwrog ac yn traenio tir gwlyb y morfa. Wrth gyrraedd tir sychach, cei...'
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 19:35, 2 Gorffennaf 2018

Mae Afon Foryd yn codi yn y corsdir rhwng pentrefi Dinas Dinlle a Llandwrog ac yn traenio tir gwlyb y morfa. Wrth gyrraedd tir sychach, ceir Rhyd y meirch lle mae pompren i gerddwyr, sef Pont Rhyd-y-meirch. Rhed wedyn trwy'r caeau mawr gwastad ar draws tir y morfa wedyn ac, ar ôl llifo dan Forglawdd Dinas Dinlle, yn arllwys i'r Foryd, sef y morlyn anferthol rhwng penrhyn Dinlle a'r tir mawr sy'n codi i gyfeiriad y mynyddoedd.

Er i'r afonig hon gael ei alw'n "afon", nid yw prin mwy na nant, yn llifo am gwta milltir a hanner ar draws y morfa.