Glan-rhyd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Mae '''Glan-rhyd''' yn gasgliad o dai ger brif lôn y cwmwd ym mhlwyf Llanwnda gerllaw Ffingar. Dichon i'r dreflan dyfu o ganlyniad i godi capel y...'
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 16:36, 21 Mehefin 2018

Mae Glan-rhyd yn gasgliad o dai ger brif lôn y cwmwd ym mhlwyf Llanwnda gerllaw Ffingar. Dichon i'r dreflan dyfu o ganlyniad i godi capel yno (Capel Glanrhyd, Llanwnda (MC) ym 1899. Y rhyd oedd Rhyd-y-dimpan, rhyd bwysig ar y briffordd rhwng Bwllheli a Chaernarfon. Mae'n sefyll ar lannau Afon Rhyd.

Mae enw Glan-rhyd yn ymddangos mewn dogfennau mor gynnar â'r 1650au, ac felly dichon ei fod yn enw ardal cyn iddo ddod yn enw treflan.