Ysgol Gynradd Bro Llifon: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Agorwyd '''Ysgol Bro Lleu''' yn Y Groeslon] yn 2015, gan uno Ysgol Gynradd y Groeslon, Ysgol Gynradd Carmel ac Ysgol Gynradd Bron-y-foel y...'
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 15:31, 12 Mai 2018

Agorwyd Ysgol Bro Lleu yn Y Groeslon] yn 2015, gan uno Ysgol Gynradd y Groeslon, Ysgol Gynradd Carmel ac Ysgol Gynradd Bron-y-foel yn Y Fron. Roedd y ddwy ysgol olaf hyn yn weddol fach, ond y rheswm am yr uno oedd y ffaith fod adeilad Ysgol y Groeslon wedi dirywio i'r fath raddau fel nad oedd modd ei atgyweirio ac yr oedd angen ysgol newqydd. Gan nad oedd cyllid gan y Cyngor Sir, meddid, rhaid oedd denu arian oddi ar Lywodraeth Cymru, a'r unig ffordd o wireddu hynny oedd trwy gyfuno ysgolion bach y cylch. Cafwyd cryn wrthwynebiad i'r symudiad hwn, er i'r ysgol newydd fod yn hynod o drawiadol o ran cyfleusterau - a symudodd nifer o blant Y Fron a Charmel i ysgolion eraill.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma