Bethesda Bach: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Gwyrfai (sgwrs | cyfraniadau) Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Pentref bychan ar yr A499, ryw bedwar milltir o Gaernarfon. {{eginyn}}' |
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
(Ni ddangosir y 8 golygiad yn y canol gan 2 ddefnyddiwr arall) | |||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
Pentref bychan ar yr A499, ryw | Pentref bychan ym mhlwyf a chymuned [[Llandwrog]] ar yr A499, ryw bedair milltir o Gaernarfon yw '''Bethesda Bach'''. Mae tarddiad yr enw'n rhywfaint o ddirgelwch gan nad oes capel erioed wedi bod yma. Ar fapiau cynharaf yr Arolwg Ordnans, ni enwir y pentref o gwbl. Ychydig o dai oedd wedi eu codi yma ym 1840 yn ôl y map cynharaf, ond erbyn yr arolwg manwl cyntaf, 1888, galwyd y pentref yn ''Bethesda'' (heb y 'bach'). Erbyn hyn roedd y tai presennol (ond am yr ystad fechan newydd sbon) wedi'u codi. Dim ond ar fap 1914 (a argraffwyd ym 1920) a mapiau mwy diweddar y gwelir yr enw llawn, ''Bethesda Bach''. | ||
Un o'r troeon cyntaf i'r enw ymddangos ar ffurf ''Bethesda'' oedd 1841, pan enwyd "Griffith Williams o Fethesda, plwyf Llandwrog, Gweinidog yr Efengyl" mewn gweithred<ref>Archifdy Gwynedd, XD2/6646</ref>. Yn 1862 ceir sôn am Hugh Jones o Fethesda, Llandwrog, chwarelwr.<ref>Archifdy Gwynedd XD2/7491</ref> | |||
{{eginyn}} | {{eginyn}} | ||
==Cyfeiriadau== | |||
{{cyfeiriadau}} | |||
[[categori:pentrefi a threflannau]] |
Golygiad diweddaraf yn ôl 12:43, 2 Mai 2018
Pentref bychan ym mhlwyf a chymuned Llandwrog ar yr A499, ryw bedair milltir o Gaernarfon yw Bethesda Bach. Mae tarddiad yr enw'n rhywfaint o ddirgelwch gan nad oes capel erioed wedi bod yma. Ar fapiau cynharaf yr Arolwg Ordnans, ni enwir y pentref o gwbl. Ychydig o dai oedd wedi eu codi yma ym 1840 yn ôl y map cynharaf, ond erbyn yr arolwg manwl cyntaf, 1888, galwyd y pentref yn Bethesda (heb y 'bach'). Erbyn hyn roedd y tai presennol (ond am yr ystad fechan newydd sbon) wedi'u codi. Dim ond ar fap 1914 (a argraffwyd ym 1920) a mapiau mwy diweddar y gwelir yr enw llawn, Bethesda Bach.
Un o'r troeon cyntaf i'r enw ymddangos ar ffurf Bethesda oedd 1841, pan enwyd "Griffith Williams o Fethesda, plwyf Llandwrog, Gweinidog yr Efengyl" mewn gweithred[1]. Yn 1862 ceir sôn am Hugh Jones o Fethesda, Llandwrog, chwarelwr.[2]
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma