Trwyn Dinlle: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Robingoch (sgwrs | cyfraniadau)
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Mae '''Trwyn Dinlle''' yn benrhyn tua dwy filltir ohyd rhwng y môr a'r Foryd. Yr oedd yn ardal dywodlyd gyda thwyni tywod yn gorchuddio llawe...'
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 09:06, 17 Ebrill 2018

Mae Trwyn Dinlle yn benrhyn tua dwy filltir ohyd rhwng y môr a'r Foryd. Yr oedd yn ardal dywodlyd gyda thwyni tywod yn gorchuddio llawer ohono, a thir pori a adferwyd o'r môr yn ystod y 19g trwy godi'r Cob, sef morglawdd ar yr ochr ddwyreiniol. Ar ddechrau'r ail Ryfel Byd, gwastadawyd ardal eang ac adeiladu Maes Awyr Caernarfon, a elwid i ddechrau'n RAF Llandwrog. Yma hefyd mae Fferm y Warren, gydaaa'r enw'n tystio i ddefnydd y trwyn tywodlyd hwn fel cwningar (man magu cwningod ar gyfer bwyd). Tua diwedd y 18g, cododd yr Arglwydd Newborough amddiffynfa Caer Belan gyda harbwr bychan, rhag ymosodiadau trwy Abermenai. O ben draw'r trwyn, cychwynnai Fferi Abermenai am Ynys Môn.

Afreai pendraw'r trwyn fod yn ddarn digyswllt o blwyf Llanwnda ond ers ail hanner y 20g, trosglwyddwyd y darn hwnnw i Landwrog, fel mae'r trwyn erbyn hyn yn gyfangwbl o fewn ffiniau plwyf a chymuned Llandwrog.

{{eginyn]]