Defnyddiwr:Miriamlloydjones: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Helo Miriam Mae Robin Owain wedi gyrru'r neges isod ataf. Doeddwn i ddim wedi meddwl am y pwyntiau hyn, ond tybed a yw'n werth mabwysiadu'r awgrymiadau?...'
 
Llyfnwy (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir y 3 golygiad yn y canol gan ddefnyddiwr arall)
Llinell 2: Llinell 2:

Mae Robin Owain wedi gyrru'r neges isod ataf. Doeddwn i ddim wedi meddwl am y pwyntiau hyn, ond tybed a yw'n werth mabwysiadu'r awgrymiadau? Gareth
Mae Robin Owain wedi gyrru'r neges isod ataf. Doeddwn i ddim wedi meddwl am y pwyntiau hyn, ond tybed a yw'n werth mabwysiadu'r awgrymiadau? Gareth
"Haia Gareth. Gwych iawn gweld y wefan yn datblygu! Dau beth:
Ydw i'n iawn yn dweud fod Seidin Tan'rallt yn rhan o Reilffordd Nantlle? Os felly gallem greu Categori:Rheilffordd Nantlle - drwy ei ychwanegu ar bob seidin sy'n llifo i fewn i brif linell Rheilffordd Nantlle. Yn yr un modd, os oes erthygl ar unrhyw orsaf ar linell Reilffordd Nantlle, yna gallem roi Categori:Rheilffordd Nantlle ar waelod yr erthygl honno. Mae rhoi categori ar waelod erthygl yn holl bwysig - fel ag y mae rhoi rhif Dewey a cod-bar ar lyfr mewn llyfrgell, neu mi eith y llyfrau ar goll a neb yn eu darllen.
Yn ail, mae na erthyglau yn dechrau cael eu rhoi heb arddull amlwg a byddai'n dda cael cysondeb, naill ai drwy greu patrwm newydd neu ddilyn arddull Wicipedia, sef:
1.Mae brawddeg gyntaf pob erthygl yn dweud yn syml ac yn glir beth yw'r gwrthrych ee 'Pentref yw Trefor' neu 'Pentref gerllaw Yr Eifl ar arfordir gogleddol Llŷn yng Ngwynedd yw Trefor.'
2.Rhoddir enw'r erthygl yn y frawddeg gyntaf (99% allan o 100!) er mwyn cadw'r peth yn syml, a'r gair / geiriau hyn mewn llythrennau bras hy 'Pentref yw Trefor '. Manion efallai, ond mae'n rhoi stamp ar y wefan!
3.Pan geir erthygl am berson, rhoddir enw'r person mewn llythrennau bras yn y frawddeg gyntaf, gyda'i ddyddiad geni'n dilyn hynny ee 'Bardd a llenor Cymraeg oedd Mathonwy Hughes (24 Chwefror 1901 - Mai 1999)'.
Yr opsiwn arall yw creu arddull ein hunain, wrth gwrs, ond dylid trafod hynny reit cyn gynted a phosib, neu mi fydd anghysondeb yn dechrau britho'r wefan! Dim ond syniadau i'w trafod!"
==
Helo Miriam
Diolch am y neges.
Nid oeddwn i wedi meddwl am gategorïau fel pethau ffurfiol, llai byth is-gategorïau, pan oeddwn yn rhestru erthyglau posib dros flwyddyn yn ôl! Carl sydd wedi creu'r strwythur categorïau/is-gategorïau, neu wedi defnyddio'r strwythur sydd ynghlwm wrth y meddalwedd. Mae Safleoedd nodedig yn is-gategori dan Daearyddiaeth Ddynol sydd yn ei dro yn is-gategori o dan Daearyddiaeth. Fel rwyf yn ei dallt hi, pwrpas hyn oll yw creu strwythur hierarchaidd, ond yn groes i strwythur archifol, gall lefelau is berthyn i fwy nag un categori/is-gategori!! Gellid felly osod e.e. safle brwydr dan Safleoedd nodedig '''a''' Milwrol ac ati. Ydy hyn yn help?
Gyda llaw, cer at Heulfryn:Sgwrs ac mi weli di yno neges gan Robin a Carl am y peth...
Gobeithio bod hyn oll yn weddol glir. Coda'r ffôn os wyt am wneud.
Hwyl
Gareth
Gareth
A oes modd cael categori ar 'Fferm'?
Glenys M Roberts

Golygiad diweddaraf yn ôl 12:15, 14 Ebrill 2018

Helo Miriam

Mae Robin Owain wedi gyrru'r neges isod ataf. Doeddwn i ddim wedi meddwl am y pwyntiau hyn, ond tybed a yw'n werth mabwysiadu'r awgrymiadau? Gareth "Haia Gareth. Gwych iawn gweld y wefan yn datblygu! Dau beth:

Ydw i'n iawn yn dweud fod Seidin Tan'rallt yn rhan o Reilffordd Nantlle? Os felly gallem greu Categori:Rheilffordd Nantlle - drwy ei ychwanegu ar bob seidin sy'n llifo i fewn i brif linell Rheilffordd Nantlle. Yn yr un modd, os oes erthygl ar unrhyw orsaf ar linell Reilffordd Nantlle, yna gallem roi Categori:Rheilffordd Nantlle ar waelod yr erthygl honno. Mae rhoi categori ar waelod erthygl yn holl bwysig - fel ag y mae rhoi rhif Dewey a cod-bar ar lyfr mewn llyfrgell, neu mi eith y llyfrau ar goll a neb yn eu darllen.

Yn ail, mae na erthyglau yn dechrau cael eu rhoi heb arddull amlwg a byddai'n dda cael cysondeb, naill ai drwy greu patrwm newydd neu ddilyn arddull Wicipedia, sef:

1.Mae brawddeg gyntaf pob erthygl yn dweud yn syml ac yn glir beth yw'r gwrthrych ee 'Pentref yw Trefor' neu 'Pentref gerllaw Yr Eifl ar arfordir gogleddol Llŷn yng Ngwynedd yw Trefor.' 2.Rhoddir enw'r erthygl yn y frawddeg gyntaf (99% allan o 100!) er mwyn cadw'r peth yn syml, a'r gair / geiriau hyn mewn llythrennau bras hy 'Pentref yw Trefor '. Manion efallai, ond mae'n rhoi stamp ar y wefan! 3.Pan geir erthygl am berson, rhoddir enw'r person mewn llythrennau bras yn y frawddeg gyntaf, gyda'i ddyddiad geni'n dilyn hynny ee 'Bardd a llenor Cymraeg oedd Mathonwy Hughes (24 Chwefror 1901 - Mai 1999)'.

Yr opsiwn arall yw creu arddull ein hunain, wrth gwrs, ond dylid trafod hynny reit cyn gynted a phosib, neu mi fydd anghysondeb yn dechrau britho'r wefan! Dim ond syniadau i'w trafod!"

==

Helo Miriam

Diolch am y neges.

Nid oeddwn i wedi meddwl am gategorïau fel pethau ffurfiol, llai byth is-gategorïau, pan oeddwn yn rhestru erthyglau posib dros flwyddyn yn ôl! Carl sydd wedi creu'r strwythur categorïau/is-gategorïau, neu wedi defnyddio'r strwythur sydd ynghlwm wrth y meddalwedd. Mae Safleoedd nodedig yn is-gategori dan Daearyddiaeth Ddynol sydd yn ei dro yn is-gategori o dan Daearyddiaeth. Fel rwyf yn ei dallt hi, pwrpas hyn oll yw creu strwythur hierarchaidd, ond yn groes i strwythur archifol, gall lefelau is berthyn i fwy nag un categori/is-gategori!! Gellid felly osod e.e. safle brwydr dan Safleoedd nodedig a Milwrol ac ati. Ydy hyn yn help?