Cored Beuno: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Neidio i'r panel llywio
Neidio i'r bar chwilio
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Mae '''Gored Beuno''' yn gasgliad o gerrig yn y môr, sy'n ymddangos ar gyfnodau o drai, tua 400 metr oddi ar y lan ghyferbyn aphentref Clynnog Fawr....' |
(Dim gwahaniaeth)
|
Fersiwn yn ôl 15:32, 10 Ebrill 2018
Mae Gored Beuno yn gasgliad o gerrig yn y môr, sy'n ymddangos ar gyfnodau o drai, tua 400 metr oddi ar y lan ghyferbyn aphentref Clynnog Fawr.
Ystyr cored yw clawdd cerrig i ddal pysgod wrth i'r llanw fynd allan, ac fe'u defnyddid yn aml yn y Canol Oesoedd. Mae sawl enghraifft o hyd i'w gweld yn Afon menai, er enghraifft wrth Ynys Gored Goch ger Pont Britannia. Mae olion coredau i'w gweld yn y môr ger Aberaeron hefyd. Yn aml, fe'u cysylltir â safleoedd credfyddol gan fod pysgod yn rhan bwysig o ddeiet offeiriaid ar ddyddiau ympryd.
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma