Ffynnon Rhedyw: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Roedd '''Ffynnon Rhedyw''' ar lan Afon Llyfni, ryw chwarter milltir i'r Gogledd-orllewin o Eglwys Sant Rhedyw, Llanllyfni. Erbyn hyn, nid oes fawr...'
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 13:04, 31 Mawrth 2018

Roedd Ffynnon Rhedyw ar lan Afon Llyfni, ryw chwarter milltir i'r Gogledd-orllewin o Eglwys Sant Rhedyw, Llanllyfni. Erbyn hyn, nid oes fawr i'w weld yno, er i Francis Jones nodi fod slabiau cerrig gerllaw yn awgrymu y bu iddi gael ei gwarchod gan waliau. Defnyddiwyd y dŵr ohoni ar gyfer bedyddiadau yn Eglwys Llanllyfni. Ni nodir unrhyw rinweddau meddygol nag ofergoelion yn perthyn i'r ffynnon, ac felly gellir tybio mai ffynnon at bwrpas yfed y dŵr ohoni mae hi wedi bod erioed, er dichon iddi gael ei chyfrif yn ffynnon sanctaidd.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau