Capel Garmon: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Neidio i'r panel llywio
Neidio i'r bar chwilio
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Saif murddyn a elwir yn Gapel Garmon tua chanllath o Ffynnon Garmon ar lethrau dwyreiniol Moel Smytho. Er i'r llecyn fod bellach...' |
(Dim gwahaniaeth)
|
Fersiwn yn ôl 09:08, 29 Mawrth 2018
Saif murddyn a elwir yn Gapel Garmon tua chanllath o Ffynnon Garmon ar lethrau dwyreiniol Moel Smytho. Er i'r llecyn fod bellach ym mhlwyf Betws Garmon, arferai fod ym mhlwyf Llanwnda, er bod eglwys Betws Garmon yn weddol agos yr ochr arall i ffin Uwchgwyfai. Dichon bod hyn yn awgrymu i'r cysylltiad ag enw Sant Garmon fynd yn ôl i gyfnod cyn sefydlogi ffiniau'r plwyfi, a ddigwyddodd, medd rhai, yn y 13g.
Er nad oes sicrwydd bod yr adeilad wedi bod â diben crefyddol, mae'r enw traddodiadol a'r agosrwydd at ffynnon rinweddol os nad sanctaidd yn awgrymu defnydd o'r fath.
{eginyn}}