Cim, Carmel: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Mae '''Cim''' yn enw ar ardal agored i'r gogledd o bentref Carmel ym mhlwyf Llandwrog, ger dreflan Capel-y-bryn. Ystyr ''Cim'' yn ôl y Dr Gle...'
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 10:31, 6 Mawrth 2018

Mae Cim yn enw ar ardal agored i'r gogledd o bentref Carmel ym mhlwyf Llandwrog, ger dreflan Capel-y-bryn. Ystyr Cim yn ôl y Dr Glenda Carr yw 'tir comin'. Bu adeg pan oedd llawer o ucheldir plwyfi Uwchgwyrfai sydd heddiw wedi'i amgáu yn dir agored a ddefnyddid gan y plwyfolion i bori anifeiliadaid ac i godi mawn. Mae llawer o dir ardal y Cim heb derfynnau hyd heddiw, ond ymddengys fod yr enw wedi'i gofnodi mor gynnar â 1604. Y cwestiwn yw hyn: a yw ardal y Cim wedi crebachu wrth i fwy o'r comin gael ei droi'n dyddynod ar gyfer y chwarelwyr, neu a oedd yr ardal dan sylw'n cael ei neilltuo'n arbennig at ddefnydd y gymuned cyn hynny?

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau